Mae’r tywydd yn cynhesu a hyd yn hyn (ganol mis Mehefin), rwyf wedi cwblhau 18 taith redeg ac rwyf wedi cyrraedd 8k. Mae’n ymddangos fel pellter da ond fy amser yw 6 munud am bob km o hyd. [Read more…]
Treinars newydd
Mae’n anodd mynd fwy nag unwaith yr wythnos, ond rwyf wedi ceisio mynd ddwywaith yr wythnos. Un ar ddydd Sul ac un ar ddydd Mawrth – mae fy nghoesau’n brifo felly rwy’n meddwl stopio rhedeg ar ddydd Mawrth. [Read more…]
7K!
7k – mae’n bell yn fy marn i yn enwedig gan ei fod yn mynd â chi hyd at Glwb Rygbi Dyfnant ond rwyf wedi gwneud ychydig o deithiau. Y mis hwn (Ebrill) rwyf wedi llwyddo i fynd ar ychydig deithiau rhedeg – 6 i fod yn fanwl gywir ond yna rhedais allan o amser i ddiweddaru fy mlog. [Read more…]
Codi’r cyflymder
Rwyf wedi rhedeg sawl gwaith ers i mi ysgrifennu y tro diwethaf felly dyma beth ydw i wedi’i wneud ers hynny (mae’n fis Ebrill): Rwyf wedi newid fy app i km yn lle milltiroedd sy’n ei wneud yn haws i mi gyfrifo’r pellter. Mae gennyf ffrind rhedeg bellach sy’n wych ac rydym wedi bod ar ddwy daith redeg wych – 6k y ddau dro sydd tua 4.6 milltir. Nid y nod o 5 milltir ond bron â chyrraedd y nod. Ac es i ar daith redeg 4k o amgylch y stryd i geisio cael pŵer yn fy nghoesau – nid yw wedi digwydd eto fodd bynnag. Rwyf hefyd wedi cael cinio gwych gyda’r menywod ac wedi yfed llawer o swigod pinc – neis ac wedi cyrraedd 7k – hwre!
Newidiadau
Mae mis Mawrth wedi troi’n fis Ebrill a chyda rhai teithiau rhedeg pellach wedi’u cwblhau, rwyf wedi penderfynu peidio â chyfrif fy nheithiau rhedeg oherwydd y gobaith yw y byddaf yn gwneud gormod i gyfrif erbyn i’r 10k gyrraedd (o bosib!) Profiad newydd unwaith eto, yn rhedeg ar ôl noson hwyr (mae canol nos yn anarferol iawn gyda 2 blentyn dan 5 oed) nos Sadwrn gyda’m gŵr a ffrindiau ac yn teimlo ychydig yn sâl fore Sul. Nid oeddwn wedi mynd i redeg nes y prynhawn ac es i’n gynt nag arfer – gyda’m het bêl-fas a’m top rhedeg llewychol wrth gwrs! Roedd y llais Americanaidd yn dweud wrthyf pa mor bell roeddwn wedi rhedeg. Yr un llwybr eto – nawr rwyf wedi diflasu’n llwyr ar y golygfeydd (nid golygfeydd mewn gwirionedd – dim ond traffig a thai)L felly bydd angen i mi newid fy llwybr y tro nesaf yn sicr.
Popeth yn iawn y tro hwn, roeddwn yn teimlo’n iawn ac roeddwn yn gynt (yn bennaf oherwydd fy mod wedi diflasu ar y llwybr) a llwyddais i gyflymu o funud! Hwre! Rhedais 2.6 milltir mewn 26 munud – llawenydd. Roeddwn yn haeddu fy nghinio rhost y noson honno! Rwy’n bwriadu rhedeg ar hyd y traeth y tro nesaf i weld pa mor bell gallaf fynd – gan anelu at 5k.