I ddechrau, diolch am gytuno i rannu eich straeon. Isod, mae enghreifftiau o gwestiynau a allai fod o ddiddordeb i’ch cyd-redwyr yn Ras 10K Bae Abertawe Admiral.
- Ar ba adeg yr oeddech yn credu yr hoffech fod yn ffit ac yn iach?
Oedd hyn o ganlyniad i bryderon iechyd, rhesymau chwaraeon, hunan-hyder…
Yn rhyfedd iawn, dechreuodd yr holl beth o fod yn ddiog. Roeddwn newydd wahanu oddi wrth fy ngwraig (wedi ysgaru erbyn hyn) ac wedi symud i’m lle fy hun. Ar ôl ychydig fisoedd o fod heb lawer o ddiddordeb mewn coginio i mi fy hun ac o fwyta allan o duniau, penderfynais ar hap wario darn 50c cyfan ar y peiriant pwyso yn fy siop Tesco leol. Ac er syndod i mi, darganfues i fy mod wedi colli bron 2 stôn heb unrhyw ymdrech o gwbl mewn gwirionedd.
- Hyd yn hyn, faint o bwysau rydych chi wedi colli?
Hyd heddiw (2 Mehefin), rwyf wedi colli 11.5 stôn neu 157lb
- Beth oedd eich her fwyaf yn ystod eich stori colli pwysau?
E.e. adeg y Nadolig, yn ystod yr haf, yn ystod cyfnodau straen yn eich bywyd?
Straen bob tro… Mae fy mhwysau dros y 7 mlynedd diwethaf, diolch byth, wedi gostwng, ond bu adegau pan ostyngais i 17 stôn ac yna dychwelyd i 20 stôn, yna nôl lawr i 18 stôn a nôl i 19.5. Yn gyffredinol, pe bawn i wedi colli pwysau yn unig a ddim cynyddu o gwbl baswn i wedi cyrraedd fy nharged 4 mlynedd yn ôl.
- Pa bethau da sydd wedi digwydd o ganlyniad i dy newidiadau?
e.e. Iachach, mwy o egni,
Yn sicr rwy’n llawer mwy heini, peidio â chael coesau marw ar ôl eistedd ar y toiled, peidio â meddwl y bydd y bath yn torri pan fyddaf yn cael cawod. Roeddwn i bron â bod yn ddiabetig ac roeddwn i’n dioddef o bwysau gwaed uchel pan oeddwn i’n 25.5 stôn. Y tro diwethaf i mi gael prawf gwaed dywedodd y doctor, os unrhyw beth, roedd lefel y siwgr yn fy ngwaed ychydig yn isel ac roedd fy mhwysau gwaed bron yn berffaith.
- Beth yw eich hoff flogiau, llyfrau neu gylchgronau iechyd a ffitrwydd yr ydych yn eu darllen?
Rwy’n tueddu i beidio â defnyddio unrhyw beth mewn gwirionedd. Os ydw i’n poeni am rywbeth, efallai y byddaf yn gwneud ychydig o ymchwil ar google am noson. Rydw i wedi, fodd bynnag, cadw blog personol yr wyf wedi defnyddio ar gyfer agweddau eraill ar fy mywyd ond hefyd am fy nheimladau am golli pwysau. Mae’r blog yn kilveryshaman.wordpress.com os oes diddordeb gan unrhyw un.
- Beth yw eich hoff fwyd iachus i’w fwyta? Beth yw’r rysáit?
Swêds, gallwch ei fwyta gyda bron popeth, pasta, cyri, nwdls, ac mae’n eich llenwi ac yn isel iawn mewn calorïau. Mae’r rhan fwyaf o fy nghoginio yn cynnwys sosban fawr ar y cwcer a byddaf yn rhoi cyw iâr wedi’i stemio ynddo, madarch, pupurau, moron, swêds a winwns ac yna ychwanegu saws, ac rwy’n ychwanegu reis, pasta neu nwdls. Rwyf yna yn ei rannu’n dybiau bach tebyg i’r rhai o siopau bwyd Tsieineaidd i oddeutu 300 o galorïau yr un a’u rhoi yn y rhewgell. Mae hyn yn cael gwared ar yr holl waith dyfalu wrth baratoi prydau ac rwy’n gwybod ei fod i gyd yn iachus.
- Beth yw eich hoff bryd o fwyd hawdd?
Lolipops hufen iâ (6 am bunt yn Asda, Tesco neu Morrisons). Rwy’n tueddu i gael un y dydd fel trît (weithiau 2, os ydw i’n teimlo ychydig yn isel neu dan straen), ac maent, ar gyfartaledd, oddeutu 70 o galorïau.
- Ydych chi’n cymryd unrhyw ychwanegiadau?
Nac ydw.
- O ran bwyta’n dda, beth yw eich 3 argymhelliad gorau?
Nid ydw i o angenrheidrwydd yn dilyn y rhain, gwnewch yn siwr eich bod yn yfed digon, peidiwch â newynu a bob hyn a hyn rhowch drît i chi’ch hun (ewch allan am bryd o fwyd).
- Beth yw eich hoff fath o ymarfer corff a pham?
Ar hyn o bryd rwy’n mynd i’r gampfa tua 5 gwaith yr wythnos ac yn treulio oddeutu 40 munud yn codi pwysau a 45 munud yn gwneud cardio. Roeddwn i’n arfer dwlu ar loncian 26 mlynedd yn ôl ac rwy’n awyddus i ddechrau unwaith eto. Nid wyf yn hoff o chwaraeon tîm, o bosib o ganlyniad i fod dros bwysau fel arfer.
- Ydych chi wedi gorfod mynd i’r afael ag unrhyw anafiadau ar hyd y ffordd?
Nac ydw, dim anafiadau o ganlyniad i golli pwysau, os unrhyw beth mae fy iechyd wedi gwella. Fodd bynnag, es i redeg fel arbrawf yn ddiweddar ac roedd yn gymaint o sioc i’m corff, roedd rhaid i mi ruthro i’r ystafell ymolchi pan ddychwelais i adref.
- Beth sy’n eich ysgogi i barhau?
Mae llawer o bobl yn fy llongyfarch ac mae hyn yn codi fy hyder ac yn fy ngwneud yn fwy penderfynol i beidio â llithro’n ôl. Bod yn enghraifft dda i’m mab, yr ydwyf ar hyn o bryd yn ceisio ei ysgogi i ddilyn fy ôl troed gan fod ganddo broblemau gyda’i bwysau. Ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf pwysig, fy nghariad, sydd wedi dysgu llawer i mi am goginio i mi fy hun a bwyta’n iach.
Diolch,
Sab