Mae bob amser yn ddefnyddiol gwneud profion ffitrwydd wrth i chi ymarfer ar gyfer digwyddiad gan ei fod yn eich helpu i osod meincnod ar gyfer ble rydych chi ar hyn o bryd, a lle yr hoffech chi fod. Mae hefyd yn eithaf defnyddiol i fesur sut mae eich hyfforddiant yn datblygu gan y gallwch weld sut rydych wedi datblygu dros yr wythnosau.
Mae nifer o brofion ffitrwydd ar gael sy’n mesur nifer o wahanol agweddau o’ch iechyd.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cofio’r prawf blîp, sef rhedeg rhwng dau bwynt, 20m ar wahân, a chael eich amseru, gyda chyfnodau byrrach o amser wrth i chi symud ymlaen drwy bob lefel. Os hoffech lawrlwytho’r prawf blîp am ddim o iTunes, cliciwch yma.
Mae profion ffitrwydd mwy modern ar gael gan y fyddin i weld a ydych chi’n ddigon iach a ffit i ymuno â’r fyddin. Yn wahanol i’r prawf blîp, sy’n profi eich ffitrwydd cardio, crëwyd y profion hyn i brofi eich cryfder craidd (eisteddiadau), eich cardio (rhedeg), a chryfder rhan uchaf eich corff (ymwthiadau).
Yna, mae nifer o brofion ffitrwydd ar gael i bobl gyffredin, i brofi amrywiaeth o rannau o’r corff, yn amrywio o dyniadau, rhwyfo, planciau, rhagwthion a mwy.
Pam na wnewch chi weld sut y dewch chi ymlaen gyda’r ychydig o brofion isod?
Planc | Dynion | Menywod |
Da | < 75 eiliad | < 60 eiliad |
Gweddol | 45 – 75 | 35 – 60 |
Gwael | > 45 | > 35 |
Cyrcydu | Dynion | Menywod |
Da | < 50 | < 40 |
Gweddol | 30 – 49 | 25 – 40 |
Gwael | > 30 | > 25 |
Ymwthiadau | Dynion | Menywod |
Da | < 25 | < 15 |
Gweddol | 16 – 24 | 5 – 15 |
Gwael | > 15 | > 5 |
Tyniadau | Dynion | Menywod |
Da | < 8 | 4 |
Gweddol | 4 – 7 | 1-3 |
Gwael | > 4 | >1 |
Rhedeg 1km | Dynion | Menywod |
Da | > 3:30 mun | 4:30 mun |
Gweddol | 3:30 – 4:30 | 4:30 – 5:30 |
Gwael | < 4:30 | < 5:30 |
Am gael her ffitrwydd yn fisol?