Mae llai na 50 niwrnod i fynd nes cynnal ras 10k Bae Abertawe Admiral 2017! Yn Joio Bae Abertawe rydym yn dwlu ar stori bersonol dda, felly ar y cyd â’n Clwb Abertawe Actif 10k, rydym wedi gofyn i aelod mwyaf newydd ein tîm flogio ei phrofiad wrth iddi hyfforddi ar gyfer ein 10k Bae Abertawe Admiral ar 24 Medi.
Dyma’r hyn y mae Georgia yn ei ddweud…
Yn ystod moment wallgof ar ôl fy ngwyliau, rwyf wedi penderfynu gwisgo fy nillad rhedeg, a chofrestru ar gyfer y ras ym Mae Abertawe eleni.
Wrth gwrs, nid wyf yn rhedeg yn broffesiynol, ond nid dyma fy ras 10k gyntaf… Iawn, rwyf wedi rhedeg UN ras 10k o’r blaen, ond mae un yn well na dim! Gan fod llwybr 10k Bae Abertawe Admiral yn wastad, yn gyflym ac yn ddelfrydol, rwy’n bwriadu curo fy amser gorau, sef 56:00.
Rwy’n gweithio wrth ddesg o ddydd Llun i dydd Gwener 8.30am-5.00pm felly nid wyf yn gwneud llawer o ymarfer corff yn ystod y dydd.
Ond fel aelod o Ganolfannau Hamdden Abertawe Actif, byddaf yn manteisio i’r eithaf ar y peiriannau cardio a phwysau ar y diwrnodau haf hyfryd hynny… pan fydd hi’n arllwys y glaw. Rwyf newydd drefnu fy sesiwn 1 i 1 gyntaf ym Mhenlan, byddaf yn eich hysbysu cyn bo hir am sut mae pethau’n mynd.
Heblaw am weithio a cheisio gwneud ymarfer corff, rwy’n dwlu ar goffi a darn o deisen dda (yn enwedig teisen gaws siocled gwyn) a hefyd yn mwynhau mynd â’m ci bach, Buddy, am deithiau cerdded hir ar hyd y traeth. Mae fy niddordebau eraill yn cynnwys edrych trwy ffenestri siopau ar fagiau ni allaf eu fforddio, a gwylio Love Island (ond ni fyddaf yn sôn am fy angerdd dros hwnnw yma)
Fy Naeargi Cymreig x Schnauzer, Buddy
Gan fy mod wedi rhoi cipolwg i chi ohonof, credaf ei bod hi’n amser rhoi wyneb i’r enw. Dyma lun ohonof ar ôl i fi orffen fy ras 10k ym mis Gorffennaf – yn flinedig iawn, yn chwyslyd iawn ac wedi llosgi yn yr haul.
Ar ôl 10k Cymru yn Ninbych-y-pysgod
Mae nosweithiau’r haf yn amser perffaith i hyfforddi (os bydd yr haul yn tywynnu) ac felly’r wythnos nesaf rwy’n bwriadu mynd i ddosbarth ymarfer corff, rhedeg 5k, cael sesiwn pwysau a rhedeg 7k (efallai 8k os gallaf) ar hyd y prom.
Gwiriwch yma bob wythnos i gael y diweddaraf ar fy hyfforddi, hyd at y diwrnod mawr ddydd Sul 24 Medi! Os hoffech gymryd rhan yn yr her gyda fi, cofrestrwch yma erbyn dydd Iau 31 Awst.
Mae hefyd gennym rasys iau 1k, 3k a 5k felly mae’r teulu cyfan yn gallu dod i sicrhau eich bod yn cael diwrnod gwych (sylwer: bod rasys iau ar gael i bobl dan 16 oed yn unig ac nid oedolion – ymddiriedwch ynof rwyf wedi gwirio) Cofrestrwch ar-lein yma erbyn dydd Sadwrn 9 Medi.
Croeswch eich bysedd ar gyfer fy wythnos gyntaf!
Georgia