Mae’r wythnosau’n gwibio heibio, mae’r rhai bach nôl yn yr ysgol ac mae’r aelod diweddaraf o’n tîm, Georgia, yn paratoi’n dda ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral, sydd bellach 20 niwrnod yn unig nes iddi gael ei chynnal! Dyma’r rhan ddiweddaraf o’i blog hyfforddi:
Rwy’n cyfaddef, mae ceisio gwneud 4 sesiwn ymarfer corff mewn wythnos ar ben gwaith a chymdeithasu’n anodd ei drefnu, ond rwy’n siŵr byddaf yn diolch i mi fy hun ar ddiwrnod y ras (ar yr amod fy mod i’n curo fy mherfformiad personol gorau, hynny yw).
Yn y cyfamser, rwyf mor lwcus bod gen i olygfeydd fel hyn wrth i mi hyfforddi. Mae’n lleddfu’r poen yn fy nghoesau a’r teimlad o losgi yn fy ysgyfaint pan fo’r haul yn disgleirio ac mae’r llanw’n uchel.
Dyma grynodeb o hyfforddiant yr wythnos diwethaf:
Sesiwn 1: Dydd Mawrth
Ioga cyfunol 60 mun
Mae’n gas gen i ddweud hyn, ond rwyf bob amser wedi bod yn un o’r amheuwyr ‘na o ran ioga sy’n honni nad ‘ymarfer go iawn’ yw e. Fodd bynnag, mae’r dosbarth ‘ma wedi fy estyn (a gwella fy nghydbwysedd). Mae’n deg dweud y bu llawer o goesau sigledig, a thipyn o chwerthin ar y ffordd. Mewn gwirionedd roedd yn braf rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac roedd yn llai dwys na rhai o’n sesiynau eraill.
Sesiwn 2: Dydd Mercher
Sesiwn gyflymder – 7km = 38:16
Er bod yr haul yn disgleirio heddiw, byddai’n well gen i sipian cwrw oer ar ôl y gwaith na gwisgo fy esgidiau hyfforddi ac ymestyn fy nghoesau oedd eisoes yn flinedig ar hyd y prom. Ond beth bynnag, llwyddais i gwblhau ‘sesiwn gyflymder’ arall hyd yn oed os nad oeddwn yn gallu cyflawni’r 10 munud olaf o redeg cyflym cyson.
Sesiwn 3: Dydd Iau
Sesiwn HIIT a chodi pwysau
Efallai nad yw 0.2km/a yn gynt ar y droedfelin yn swnio fel cymaint o gamp, ond credwch chi fi – mae symud o 15km/h i 15.2km/h bron yn ddigon i beri i mi gwympo oddi ar y cefn. Ond roedd 11 munud o waith caled yn hollol werth chweil pan lwyddais i gwblhau’r sesiwn lawn gyda pherfformiad personol gorau (buddugoliaethau bach ac ati).
Sesiwn 4: Dydd Sadwrn
Ras 10km = 53:05
Ar ôl y penwythnos hir yr wythnos ddiwethaf, roeddwn yn gwybod bod rhaid i mi ddechrau hon yn gywir – yn bennaf gyda batri ffôn wedi’i wefru’n llawn!! Roedd yr haul yn disgleirio, roedd yr awyr yn ffres ac roeddwn yn barod i fynd i’r afael â’r pellter llawn y bore ‘ma. Gwnes i ymdrech fawr dros y cilometr olaf i guro’r cloc ac roedd yn bendant yn werth gwneud hynny – nawr y cyfan sydd ei angen arna’ i yw ail-wneud hyn ar ddiwrnod y ras!
Ddydd Sadwrn oedd fy ras 10k lawn gyntaf ers 10k Cymru ar ddechrau mis Gorffennaf, felly dyma’r meincnod a fydd yn sail i’r hyn byddaf yn ei wneud dros y pythefnos nesaf. Croesi bysedd y byddaf yn gallu cwblhau o leiaf 2 ras 10k lawn cyn diwrnod y ras, wrth i mi anelu at fy mherfformiad personol gorau.
Blog arall cyn bo hir,
Georgia x