Felly, efallai fod y tywydd wedi gwireddu’r rhagolygon tywydd diflas, gan iddi ddechrau bwrw hen wragedd a ffyn wrth i’r gwn cychwyn gael ei danio, ond am ddiwrnod ddoe!
O gasglu’m crys-T brynhawn dydd Gwener, hyd at ddiwedd y ras, roedd y penwythnos yn llawn hwyl.
Wrth edrych yn ôl, nid oeddwn wedi sylweddoli faint o bobl a fyddai ar y safle ar ddiwrnod y ras, rhwng rasys y plant, rhedwyr y 10k a’r gwylwyr, roedd yr amgylchedd yn hynod wefreiddiol!
Gyda chyfnod cynhesu arddull Rocky a arweiniwyd gan Abertawe Actif, roeddwn yn ysu i fynd erbyn i’r gwn gael ei danio am 1pm. Roedd cael blociau amseru ar y llinell ddechrau’n golygu nad oedd angen i mi frwydro i gyrraedd y blaen ac y gallwn ddechrau ar gyflymder tebyg i’m cyd-redwyr ar y llinell ddechrau.
Nid yw llafurio drwy byllau am oddeutu awr yn ymddangos fel llawer o hwyl ar brynhawn dydd Sul, ond roedd clywed y dorf yn curo dwylo a gweiddi wir wedi rhoi ias i mi, yn enwedig wrth gyrraedd hanner ffordd. Rhoddodd ychydig o gerddoriaeth fywiog gan Heart FM ar y pwynt 7k yr hwb yr oedd ei angen arnaf pan ddechreuodd fy nghoesau flino ar y rhan olaf wrth i mi gyfri’r metrau a oedd yn weddill.
Oherwydd ymdrechion y safonwr 50 munud, llwyddais i guro’m hamser gorau gydag amser sglodyn swyddogol o 51.48 drwy gadw llygad arno drwy gydol y cwrs!
Dwi wrth fy modd fy mod wedi bod yn rhan o ddigwyddiad mor bleserus a byddaf yn sicr yn cofrestru eto’r flwyddyn nesaf, ond y tro hwn â nod newydd: llai na 50 munud.
Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i redeg y milltiroedd wrth i mi geisio cwblhau fy hanner marathon cyntaf y flwyddyn nesaf yn fy her redeg.
Mae’n ymddangos nad fi’n unig a wnaeth fwynhau’r ras, oherwydd ei bod eisoes wedi cael ei henwebu unwaith eto ar gyfer y 10k gorau yng Ngwobrau Rhedeg y DU! Os gwnaethoch fwynhau cymaint â fi, gallwch bleidleisio dros 10k Bae Abertawe Admiral yma 🙂
Os gwnaethoch ddwlu ar y ras, sicrhewch eich bod yn rhoi adolygiad da ohoni ar Facebook hefyd!
Gobeithio’ch gweld chi gyd ar 16 Medi 2018!
Georgia x