Mae cannoedd o redwyr iau’n paratoi ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral arobryn eleni.
Mae’n amser i gofrestru ar gyfer y rasys iau sy’n hynod boblogaidd ac sy’n cynnwys pellterau gwahanol i’r rhai sydd yn y prif ddigwyddiad ar gyfer oedolion.
Bydd pobl ifanc sydd wedi cofrestru erbyn mis Awst yn derbyn crys-t ar gyfer y ras ynghyd a medal, tystysgrif a bag rhoddion ar ôl iddynt groesi’r llinell derfyn.
Mae cannoedd o bobl eisoes wedi cofrestru ar gyfer y brif ras a bydd y digwyddiad iau yn herio pobl ifanc yn y rasys 1k, 3k neu 5k, gan ddibynnu ar eu grŵp oedran.
Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn un o drysorau rhaglen ddigwyddiadau flynyddol y ddinas, ac mae’r nifer o bobl ifanc sy’n cymryd rhan neu’n dod i wylio’n cynyddu bob blwyddyn.
“Dewiswyd 10k Bae Abertawe Admiral fel y ras 10k orau yng Nghymru yng ngwobrau rhedeg 2018 ac rydym yn falch o’r teitl hwn sy’n dilyn pleidlais rhedwyr sydd wedi cymryd rhan yn y ras eu hunain oherwydd ei fod yn adlewyrchu safon y digwyddiad.
“Mae’r wobr hon yn profi bod hwn yn ddigwyddiad sy’n hynod boblogaidd ac mae digon o amser ar ôl i chi ymarfer cyn y diwrnod mawr ar 16 Medi, p’un a ydych yn rhedwr iau neu’n oedolyn.”
Cymerodd mwy na 4,500 o bobl ran yn y ras y llynedd. Yn ogystal â’r brif ras, sef y 10k, bu rasys iau 1k, 3k a 5k yn ogystal â ras gadair olwyn 10k a sbrint 100 metr i fasgotiaid.
O ganlyniad i recordio amserau electronig, bydd cystadleuwyr yn cael gwybod yn gyflym ac yn hawdd a oedd eu hymdrechion yn ddigon i guro eu hamser personol gorau ar gwrs sy’n hwylus i redwyr ac sy’n cynnig rhai o’r golygfeydd godidocaf yn y wlad.
Gallwch gofrestru yn awr ar gyfer y rasys iau sy’n cynnwys ras 1k ar gyfer plant 11 oed ac iau, ras 3k ar gyfer plant rhwng 9 a 14 oed a ras 5k ar gyfer pobl ifanc rhwng 15 a 21 oed. Pris cynnar i gofrestru am y ras yw £6.50 ond bydd y pris yn cynyddu ar 1 Gorffennaf felly brysiwch!
Roedd darpar gyfranogwyr yn gallu cofrestru ar gyfer y brif ras yn syth ar ôl i’r digwyddiad orffen y llynedd a’r pris cynnar i gofrestru yw £22 ar gyfer rhedwyr sy’n aelodau a £24 ar gyfer rhedwyr nad ydynt yn aelodau. Bydd y cynnig cynnar ar gyfer y brif ras yn dod i ben ar 11 Mehefin.
Os rydych eisiau cymryd rhan yn y rasys iau neu’r brif ras 10k, mae’n rhaid i chi gofrestru cyn 31 Awst neu cyn bydd yr holl leoedd yn llawn – mae’r holl leoedd wedi bod yn llawn cyn y dyddiad cau dros y blynyddoedd diweddar felly cofrestrwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.