Gallwch bellach gofrestru!
Cynhelir y ras 10k Bae Abertawe Admiral nesaf ar 15 Medi 2024, a gallwch gofrestru ar-lein yn awr ar gyfer y ras 10k a’r rasys iau 1k a 3k.
Os ydych newydd ddechrau rhedeg, am dorri record ar gyfer y cwrs neu’n chwilio am ras hwyl wych i’w mwynhau gyda ffrindiau a theulu, dyma’r ras i chi!
Cynnig cynnar
Rhagor o newyddion gwych! Dechreuwch y flwyddyn newydd gydag ymgyrch cadw’n heini – mae’r ffioedd i gymryd rhan yr un peth tan 1 Chwefror! Felly manteisiwch ar ein cynnig cynnar a chofrestrwch heddiw!
Beth am roi cofrestriad ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral yn anrheg
Ydych chi’n chwilio am anrheg i redwyr o bob oedran? Beth am roi cofrestriad ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral 2024? Gallwch bellach brynu cofrestriad ar gyfer ein ras 10k a’r rasys iau, gan eich galluogi i roi cofrestriad yn rhodd i’r rhedwr hynny sydd yn eich bywyd.
Ewch ar-lein i wefan Njuko a chlicio ar yr eicon siâp anrheg ar gornel dde uchaf y sgrin.